Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 5
Rhagfyr 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru o gael trefniadau pwrpasol i Ogledd Iwerddon o ran ei ffin?
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(45 munud)
Dogfen
ategol
Ymgynghoriad:
System addysg a hyfforddiant ôl-orfodol wedi'i
diwygio
(15 munud)
NDM6607 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo'r Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)
Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)
(120 mins)
NDM6603 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-2019 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar 3 a 24 Hydref 2017.
Dogfennau
ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid
Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion
Gwledig
Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a
Chwaraeon
Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a
Chymunedau
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Llythyr
oddi wrth Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu at
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Llythyr
oddi wrth Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu at
y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Llythyr
oddi wrth Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu at
Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes (Atodiad)
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu nad yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-2019 yn diwallu anghenion pobl Cymru yn ddigonol.
(60 munud)
NDM6602 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr angen am gymryd camau brys, gan gynnwys gweithio ar draws pob adran o Lywodraeth Cymru, i fynd i’r afael ag ansawdd aer gwael sy’n effeithio ar iechyd pobl ac amgylchedd naturiol Cymru.
2. Yn cefnogi datblygu cynllun aer glân i Gymru i sicrhau mwy o welliannau na’r lleiafswm cyfreithiol ar gyfer ein holl ddinasyddion, gan gynnwys:
a) llunio fframwaith parth aer glân i sicrhau bod y parthau aer glân yn cael eu cynnal yn gyson ac effeithlon gan yr awdurdodau, lleol, lle’r bo’r angen;
b) gwella’r ffordd y mae’r awdurdodau lleol yn adrodd ar faterion sy’n ymwneud ag ansawdd aer yn eu rhanbarthau, a’r ffordd y maent yn mynd i’r afael â nhw;
c) sefydlu canolfan asesu a monitro ansawdd aer Cymru, ar gyfer cynghori llywodraethau lleol a chenedlaethol ar faint o ansawdd aer gwael sydd ac ar effeithiolrwydd camau gweithredu, nawr ac yn y dyfodol;
d) sefydlu ymgyrch barhaus sy’n ymwneud ag ansawdd aer ac ymyriadau eraill i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ansawdd aer gwael ac i newid ymddygiad.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wireddu ei hymrwymiad i gael gwared ar geir a faniau diesel a phetrol erbyn 2040 drwy osod cerrig milltir penodol i’w cyrraedd cyn y dyddiad hwnnw, gan gyflymu’r newid i system drafnidiaeth dim allyriadau yn y DU a chan sicrhau canlyniadau iechyd y cyhoedd yn gynharach.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i drin llygredd aer fel mater iechyd y cyhoedd.
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth genedlaethol ar lygredd aer.
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau i fyrddau iechyd lleol ar hysbysu trigolion ynghylch lefelau llygredd aer.
Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol ar sut y dylid monitro ansawdd aer y tu allan i ysgolion ac ar lwybrau teithio llesol.
Gwelliant 5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r mesurau arloesol a hyrwyddir gan Lywodraeth y DU, fel cael gwared ar bob injan diesel a phetrol erbyn 2040 – ac yn galw am fwy o gysylltiadau partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y polisi hwn, er mwyn sicrhau'r newid i drafnidiaeth ffordd dim allyriadau yn y DU a chyflwyno'r canlyniadau cysylltiedig i iechyd y cyhoedd.
Gwelliant 6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen i ddatgarboneiddio'r sector trafnidiaeth ac yn croesawu'r ddarpariaeth o £2 miliwn tuag at drydanu cerbydau trydan o ganlyniad i'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar y gyllideb.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 6 Rhagfyr 2017